Cyswllt

Swyddfa De Cymru
Rhwydwaith Garddwriaeth Cymru
Gerddi Aberglasni
Llangathen
Sir Gaerfyrddin
SA32 8QH
Ffôn: 01558 668023
Ffacs: 01558 668998

North Wales Office
Coleg Garddwriaeth Cymru
Ffordd Treffynnon
Llaneurgain
Sir y Fflint
CH7 6AA
Ffôn: 01352 841016
Ffacs: 01352 840573
Kevin Thomas, Rheolwr Prosiect
Graddiodd Kevin mewn amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Reading cyn treulio dwy flynedd gyda Gwasanaethau Datblygu Rheoli (Management Development Services - MDS) yn gweithio ar secondiadau hyfforddi o fewn busnesau garddwriaethol yn Nwyrain Anglia a Caint. Yna fe aeth ymlaen i weithio i dyfwr a rhagbaciwr salad mawr.

Daeth Kevin yn ôl i Gymru i weithio mewn amryw o swyddi amaethyddol ac amgylcheddol gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Yn 1999 symudodd Kevin i'r Gyfarwyddiaeth Fwyd newydd o fewn y Bwrdd Datblygu a barhaodd i weithio mewn swyddi strategaethol ac ariannol yn gysylltiedig â Chyswllt Ffermio a Strategaeth Arddwriaethol Cymru yn dilyn y cyfuniad gyda Llywodraeth y Cynulliad.

Fel Rheolwr Prosiect, mae Kevin yn gyfrifol am drosglwyddo pob agwedd o brosiect Rhwydwaith Garddwriaeth Cymru a chysylltiadau gyda phartneriaid eraill.

Mae Kevin hefyd yn rhedeg fferm organig eidion a defaid 80 erw ger Aberhonddu, Powys.

Ffôn: 01558 668023
Ebost: kevin.thomas@wcoh.ac.uk
Garry Smith MBE, Swyddog Datblygu
Cwblhaodd 33 mlynedd yn y Llynges Frenhinol fel Peiriannwr Morol ac fe dreuliodd y 12 blynedd olaf o'i wasanaeth fel uwch weinyddwr. Roedd yn gyfrifol am ddatblygu a chynllunio rhaglenni hyfforddi ar gyfer Ysgol Peiriannu Forol y Llynges Frenhinol a Choleg Hyfforddi Swyddogion Newydd. Yn ei swydd olaf wrth wasanaethu roedd yn gyfrifol yn uniongyrchol i Ail Arglwydd y Môr ar gyfer briffio a chyflwyno amodau gwasanaeth personél y llynges a'u teuluoedd dibynnol ac adrodd yn ôl gyda'i ymatebion yn uniongyrchol i'r llyngesydd a Gweinidogion y Llywodraeth.

Fel Swyddog Datblygu i'r prosiect, mae Garry yn gyfrifol am ddatblygu'r weinyddiaeth a strategaeth i greu clystyrau peilot ar gyfer y prosiect ac am fynychu a threfnu cyfarfodydd gyda chwmnïoedd yn y clwstwr.

Fel Garddwr brwd, mae Garry yn edrych ar ôl llain lysieuol a pherllan ffrwythau, sy'n ei wneud yn 80% hunangynhaliol.


Ffôn: 01352 841016
Ebost: garry.smith@wcoh.ac.uk
Amy Brickland, Ymchwilydd Prosiect
Ar ôl gadael ysgol fe weithiodd Amy ar y fferm laeth teuluol am 15 mlynedd tan aeth y busnes allan o laeth ac i mewn i eidion. Yna, aeth Amy yn ôl i fyd addysg i Goleg Garddwriaeth Cymru i astudio Dylunio Tirlun a graddio yn 2001.

Nawr, mae Amy yn rhannu ei hamser rhwng Fforwm Tirlun fel Trefnydd Digwyddiadau a Rhwydwaith Garddwriaeth Cymru fel Ymchwilydd Prosiect yng Ngholeg Garddwriaeth Cymru.


Ffôn: 01352 841016
Ebost amy.brickland@wcoh.ac.uk
welsh speakerRachelle Hall, Gweinyddwraig Prosiect
Ar ôl gadael ysgol gweithiodd Rachelle fel clerc ym Manc Nat West cyn iddi symud ymlaen i ymuno â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ym mis Awst 1997 fel derbynnydd. Yn ystod y 9 mlynedd buodd hi yna fe weithiodd i nifer o bobl yn cynnwys y Cyfarwyddwr Ariannol, Pennaeth Cyfleusterau a'r Rheolwr Cyffredinol.

Yn 2003, yn ystod ei rôl yn gweithio i'r Rheolwr Cyffredinol, cafodd ei gwaith i'w ddatblygu i gynnwys trefnu rhaglen digwyddiadau a gweithgareddau marchnata llwyddiannus a wnaeth gynorthwyo at gynnydd niferoedd ymwelwyr i'r gerddi.

Fe ymunodd Rachelle â Rhwydwaith Garddwriaeth Cymru ym mis Medi 2006 ac mae'n gweithio o swyddfa Aberglasni.

Ffôn: 01558 668023
Ebost: rachelle.hall@wcoh.ac.uk