Rhwydwaith Garddwriaeth Cymru

Prosiect cynnal busnes a sefydlwyd er mwyn hyrwyddo,cynnal a chyfarfod ag anghenion busnes y diwydiant garddwriaeth yng Nghymru yw Rhwydwaith Garddwriaeth Cymru.

Ein bwriad yw darparu rhwydweithiau a fydd o gymorth i gwmnïoedd garddwriaeth yng Nghymru i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â chystadleuaeth a chynaladwyaeth trwy gydweithio a rhannu gwybodaeth.

Mae Rhwydwaith Garddwriaeth Cymru yn cael ei ariannu gan Raglen Interreg IIIA yr Undeb Ewropeaidd gyda Choleg Garddwriaeth Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bartneriaid cyllido.